Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi bil newydd a fydd yn golygu bod rhywun sy’n cael eu canfod yn euog o achosion o gaethwasiaeth a masnachu pobol yn cael dedfryd o garchar am oes.
Mae’r Bil wedi ei gyhoeddi gan fod caethwasiaeth wedi bod yn broblem gynyddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Bydd y bil yn rhoi dedfryd oes awtomatig i droseddwyr sydd wedi cael eu cyhuddo’n barod o droseddau rhyw difrifol neu ymosodiadau treisgar.
Bydd Comisiynydd Gwrth-Gaethwasiaeth hefyd yn cael ei benodi.
Galw am dystion
Dywedodd Theresa May: “Rwy’n cydnabod fod problem wrth i nifer fach iawn o bobol gael eu canfod yn euog mewn achosion o gaethwasiaeth. Un peth mae’r bil yn ei wneud yw atgyfnerthu’r strwythur a chyflwyno dedfrydau hirach.”
Aeth yr Ysgrifennydd Cartref ymlaen i ddweud ei bod hi’n amhosib gwybod faint o bobol sy’n byw o dan amodau caethwasiaeth ym Mhrydain, ond fod asiantaethau swyddogol yn awgrymu fod y ffigyrau yn cynyddu.
Dywedodd mai un peth sy’n rhwystro asiantaethau rhag cyhoeddi ffigyrau dilys yw nad yw’r rhai sy’n cael eu cam-drin yn fodlon rhoi gwybod i swyddogion, gan eu bod nhw’n ofni cael eu hanfon yn ôl i’w gwledydd eu hunain.
“Rydym angen i bobol fod yn barod i gamu mlaen a rhoi tystiolaeth mewn achosion o’r fath,” meddai.
‘Angen mynd ymhellach’
Mae Yvette Cooper, Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, yn credu fod rhaid gwneud hyd yn oed mwy i warchod plant rhag caethwasiaeth.
“Bysen ni’n hoffi i’r bil fynd gam ymhellach, yn benodol i amddiffyn plant.
“Mae hi’n warthus fod dau blentyn o bob tri sy’n cael eu darganfod gan yr awdurdodau ar ôl cael eu cadw fel caethweision yn mynd ar goll eto – dyw’r system ddim yn ddigon cadarn.”