Mae ditectifs sy’n ymchwilio i ddiflaniad Jayden Parkinson, 17, wedi cyhuddo llanc o roi cymorth i droseddwr.
Fe gyhoeddodd Heddlu Thames Valley bod y bachgen, sydd hefyd yn 17 oed, wedi cael ei gyhuddo, yn fuan ar ôl i Ben Blakeley fynd o flaen ynadon Rhydychen ar gyhuddiad o lofruddio Jayden.
Dywed yr heddlu y bydd y bachgen, o Didcot, na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, yn mynd o flaen ynadon prynhawn ma.
Mae wedi ei gyhuddo o roi cymorth i droseddwr rhwng 3 a 10 Rhagfyr.
Cafodd Blakeley, 22, o Reading, Berkshire ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Rhydychen yfory.
Fe ddiflannodd Jayden Parkinson dros bythefnos yn ôl. Cafodd ei gweld y tro olaf yn gadael gorsaf drenau Didcot ar 3 Rhagfyr.
Bu’r heddlu’n chwilio tir fferm ger pentref Upton ger Didcot dros y penwythnos.