Warren Gatland
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi fod Warren Gatland wedi arwyddo estyniad i’w gytundeb i aros fel prif hyfforddwr Cymru hyd nes diwedd Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019.

Roedd cytundeb presennol y gŵr o Seland Newydd i fod i ddirwyn i ben ar ôl Cwpan y Byd 2015 yn Lloegr, ond fe fydd Gatland bellach yn arwain Cymru i’r Cwpan Byd nesaf yn Siapan yn 2019.

Cafodd Gatland ei benodi’n brif hyfforddwr Cymru yn 2007, gan arwain y tîm i ddwy Gamp Lawn yn 2008 a 2012, rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2011, a Phencampwriaeth Chwe Gwlad arall yn 2013.

Roedd hefyd yn hyfforddwr ar daith fuddugol y Llewod yn Awstralia’r haf yma, gan gipio tlws Hyfforddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC neithiwr am gyflawni’r gamp honno.

Cafodd y cytundeb newydd ei drafod gan Gatland a Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, tra bod Gatland ar daith y Llewod dros yr haf, gyda’r cytundeb terfynol yn cael ei gymeradwyo gan gyfarfod Bwrdd yr Undeb ddoe.

Os bydd Gatland yn arwain Cymru i Siapan yn 2019, fe fydd yr hyfforddwr cyntaf i arwain y tîm i dair cystadleuaeth Cwpan Byd.

Cynllun tymor hir i’r Undeb

Dywedodd Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, eu bod yn gobeithio fod y cytundeb tymor hir yma am sicrhau cysondeb ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n hynod o falch o allu cyhoeddi fod Warren Gatland am barhau fel Prif Hyfforddwr ar Gymru tan ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019,” meddai Roger Lewis mewn datganiad ar wefan yr Undeb.

“Does dim amheuaeth ei fod wedi profi’i arbenigedd rygbi, yr angerdd a’r ymroddiad i baratoi ac ysbrydoli’n timau i chwarae gyda’r sgil a balchder uchaf.

“Mae gennym ni strwythur hyfforddi manwl a phroffesiynol yn ei le bellach y gall Warren gymryd clod am ei chreu.

“Wrth ei arwyddo am bedair blynedd ychwanegol rydym ni’n sicrhau fod gennym ni’r systemau yn eu lle i barhau i ddatblygu ar gyfer dyfodol y gêm ryngwladol yng Nghymru.

“Mae’r cytundeb rydym ni wedi trafod yn cynnwys elfen sylweddol sydd yn dibynnu ar lwyddiant ac rydym ni i gyd yn gweithio tuag at yr un nod.

“Fe ystyrion ni bob sefyllfa bosib, ond fe ddaeth hi’n gynyddol amlwg mai’r opsiwn orau i Gymru yw Warren Gatland.

“Fe ddechreuodd y broses a arweiniodd at hyn dros flwyddyn yn ôl ac mae wedi cymryd gwaith caled a thrafod sylweddol i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud y peth iawn i Gymru a Warren.

“Fyddwn ni byth yn stopio datblygu a gwella ein systemau a’n strwythurau ac rwy’n gwybod y bydd Warren yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y broses honno dros y blynyddoedd i ddod.”

Gatland yn hapus

Dywedodd Gatland mai hyder yn y chwaraewyr presennol o Gymru oedd y prif reswm pam y penderfynodd aros fel prif hyfforddwr.

“Rydw i wrth fy modd mod i wedi cael fy newis gan Undeb Rygbi Cymru i arwain timau Cymru ar gyfer y ddwy Gwpan Byd nesaf.

“Rydw i wedi penderfynu aros yng Nghymru oherwydd mod gen i hyder yn y chwaraewyr sydd gennym ni, y strwythurau hyfforddi dwi wedi’i ddatblygu a’r cynllun olynu o dalent rydym ni bellach yn diweddaru’n gyson.

“Rwy’n gwybod fod gwledydd mawr rygbi eraill yn ein cymryd ni o ddifrif fel gwrthwynebwyr sy’n medru chwarae rygbi gwych ac mae hynny’n fy ysbrydoli i gymryd y grŵp yma o hwaraewyr yn bellach.

“Mae yna lawer o waith caled o’n blaenau ond, gyda chefnogaeth URC, mae gan y garfan ryngwladol nawr y gallu i gyrraedd ble mae cyhoedd Cymru am iddyn nhw gyrraedd.

“Mae’n chwaraewyr gorau ni nawr yn cael eu datblygu o fewn strwythurau hollol broffesiynol ac mae’r staff cefnogol sydd gennym ni yn cynnwys rhai o’r bobl orau sydd i gael yn eu maes arbenigedd hwy.

“Rwy’n edrych ymlaen at yr her ac yn falch tu hwnt o’r fraint o gael mynd a Chymru i’r ddau Gwpan Byd nesaf.”