Nigella Lawson
Fe fydd Nigella Lawson yn dychwelyd i’r llys heddiw wrth iddi barhau i roi tystiolaeth yn achos dwy o’i chyn gynorthwywyr personol.

Ddoe, roedd y gogyddes wedi cyfaddef iddo gymryd cocên yn y gorffennol ond roedd yn gwadu ei bod yn gaeth i gyffuriau. Dywedodd hefyd bod ei chyn-wr, Charles Saatchi yn ceisio pardduo ei henw da.

Mae’r chwiorydd Eidaleg, Elisabetta a Francesca Grillo,  wedi’u cyhuddo o dwyll drwy ddefnyddio cerdyn credyd gawson nhw gan Nigella Lawson a  Charles Saatchi, er budd personol.

Honnir bod y chwiorydd wedi gwario £685,000 ar ddillad a bagiau i’w hunain.