Theresa May
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref herio cyd-aelodau’r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel heddiw ynglŷn â rheolau’n ymwneud a chaniatáu i fewnfudwyr ddod i’r wlad i weithio.
Fe fydd Theresa May yn dweud wrth weinidogion materion cartref Ewrop bod y DU yn teimlo’n rhwystredig oherwydd methiant y Comisiwn Ewropeaidd i fynd i’r afael a cham-ddefnyddio’r rheolau.
Cyn y cyfarfod fe fu May yn trafod mesurau i fynd i’r afael a’r broblem drwy roi cap ar nifer y mewnfudwyr Ewropeaidd os yw’r ffigwr yn cyrraedd trothwy penodol.