Mae deunydd ymbelydrol peryglus a gafodd ei ddwyn o lori ym Mecsico wedi cael ei ddarganfod, yn ôl swyddogion yn y wlad.
Cafodd lori oedd yn cynnwys y deunydd cobalt-60 ei ddwyn o orsaf betrol yn nhalaith Hidalgo yng nghanolbarth Mecsico, cyn cael ei ddarganfod yn nhref Hueypoxtla dros ugain milltir i ffwrdd.
Roedd y lladron wedi agor y cynhwysydd oedd yn cario’r deunydd ymbelydrol – sy’n gallu lladd o fewn dyddiau – ac yn ôl arbenigwr niwclear fe fyddai unrhyw un a wnaeth hynny yn debygol o fod wedi peryglu’i bywyd.
Fodd bynnag, rhybuddiodd Juan Eibenschutz, cyfarwyddwr cyffredinol y Comisiwn Gwladol ar Amddiffyniad a Diogelwch Niwclear, nad oedd y deunydd yn peryglu’r boblogaeth leol ac nad oedd angen iddynt adael yr ardal.
Roedd y deunydd, oedd wedi bod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer triniaeth feddygol i ganser, yn cael ei gludo i ganolfan wastraff niwclear ar y pryd. Roedd y gyrrwr wedi parcio ar ymyl y ffordd i gael saib pan ddaeth y lladron.
Bygythiad i’r lladron yn unig
Dywedodd ffisegydd y Comisiwn Mardonio Jimenez fod y lladron a agorodd y deunydd “mewn perygl.”
Yn ôl Mardonio Jimenez nid oedd unrhyw un wedi mynd i ysbytai cyfagos yn dioddef o effeithiau ymbelydredd.
Dywedodd Juan Eibenschutz nad oedd unrhyw beth yn awgrymu fod y lladron wedi ceisio dwyn y deunydd ymbelydrol am resymau terfysgol, gan awgrymu mai camgymeriad gan y lladron ydoedd.
Yn ôl Dr Fred Mettler, athro mewn radioleg o Brifysgol New Mexico a chynrychiolydd yr Unol Daleithiau i’r Cenhedloedd Unedig ar ddiogelwch ymbelydredd, byddai’r amser a dreuliwyd gyda’r deunydd yn hollbwysig.
“Os ydych chi’n dal y deunydd yn eich llaw am ryw bump i wyth munud fe fyddech chi’n debygol o gael digon o ymbelydredd yn eich holl gorff i fedru’ch lladd,” meddai. “Ond os yw rhywun ochr arall i’r stryd, dydyn nhw ddim am gael digon i’w gwneud nhw’n wirioneddol sâl.”