Mae milwr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau terfysgaeth ar ôl i fom hoelion gael ei ddarganfod mewn tŷ.
Cafodd y dyn 19 mlwydd oed ei ddal ar safle’r fyddin yn Paderborn, Yr Almaen, ar ôl i’r ddyfais amheus gael ei ddarganfod mewn tŷ teras yn Salford yr wythnos diwethaf.
Cafodd ei gludo i’r DU a’i holi gan dditectifs ym Manceinion cyn iddo gael ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Ionawr tra bod ymholiadau’n parhau.
Darganfuwyd y ddyfais amheus mewn eiddo yn Stryd Mellor, Eccles, ar 28 Tachwedd.
Galwyd swyddogion difa bomiau’r fyddin i gael gwared a’r ddyfais yn ddiogel tra symudwyd trigolion lleol i ysgol gyfagos.
Credir bod y milwr yn cael ei gadw gan yr Heddlu Milwrol Brenhinol ar amheuaeth o feddiant anghyfreithlon o ffrwydron, gynnau a bwledi.
Dywedodd llefarydd ar ran y Fyddin: “Gallwn gadarnhau bod unigolyn wedi cael ei arestio ar gyhuddiadau sy’n gysylltiedig â darganfod dyfais amheus yn Salford ar 28 Tachwedd 2013.
“Mae Heddlu Manceinion yn parhau i ymchwilio a byddai’n amhriodol i ni wneud sylwadau pellach yn ystod yr ymchwiliad.”