Roedd y News of the World wedi hacio ffonau ac roedd y bobl oedd yn gyfrifol am y pwrs yn ymwybodol o hynny, clywodd y rheithgor yn achos cyn brif weithredwr News International Rebekah Brooks a’r cyn ymgynghorydd PR Andy Coulson heddiw.
Yn yr Old Bailey, dywedodd yr erlynydd Andrew Edis QC y byddai’r erlyniad yn dangos bod y papur newydd, sydd bellach wedi dod i ben, wedi hacio ffonau ac y byddai’n rhaid i’r rheithgor benderfynu pwy oedd yn gwybod am yr arfer.
Wrth agor yr achos dywedodd Andrew Edis QC: “Fe fyddwn ni’n dangos bod hacio ffonau’n digwydd yn y News of the World. Ond pwy oedd yn gwybod?”
Fe esboniodd wrth y rheithgor bod yr achos yn ymwneud a thri math o honiad a ddaeth i’r amlwg yn dilyn ymchwiliad oedd wedi datgelu bod ffon y ferch ysgol a gafodd ei llofruddio, Milly Dowler, wedi cael ei hacio. Fe arweiniodd hynny at ddod a’r News of the World i ben.
Mae’r honiadau’n cynnwys honiad bod y News of the World (NotW) wedi hacio ffonau rhwng 2000 a 2006, a’r ail honiad bod newyddiadurwyr y Sun a’r NotW wedi talu swyddogion cyhoeddus am wybodaeth.
Honnir hefyd bod Brooks, ynghyd a’i chyn ysgrifennydd personol Cheryl Carter, wedi cynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy symud saith bocs o ddeunydd o archifau News International. Mae ’na honiadau hefyd bod Brooks, gyda’i gwr Charlie Brooks a chyn bennaeth diogelwch News International, Mark Hanna, wedi cyflawni’r un drosedd drwy geisio cuddio dogfennau a chyfrifiaduron.
Mae Brooks, 45, o Swydd Rhydychen, a Coulson, 45, o Gaint wedi eu cyhuddo o gynllwynio i glustfeinio ar alwadau ffôn rhwng 2000 a 2006.
Mae Brooks hefyd wedi ei chyhuddo o ddau gyhuddiad o gynllwynio gydag eraill i gamweinyddu mewn swydd gyhoeddus.
Mae hi hefyd yn wynebu dau gyhuddiad arall o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae disgwyl i’r achos barhau am chwe mis.