Ni fydd streic gan weithwyr y Post Brenhinol yn cael ei chynnal ddydd Llun wedi’r cwbl, yn ôl Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU).
Dywed yr undeb bod ’na ddatblygiadau wedi bod yn y trafodaethau ynglŷn â chyflog a phensiynau, a’u bod yn gobeithio dod i gytundeb o fewn y pythefnos nesaf.
Roedd disgwyl i’r gweithwyr gynnal streic 24 awr ar ddydd Llun, 4 Tachwedd ynglyn a materion yn ymwneud a phreifateiddio’r Post Brenhinol.