Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ynglŷn ag ymosodiad ar ddyn yng nghanol Caerdydd dros y penwythnos.

Cafodd dyn 21 oed o Lys-faen, Caerdydd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ar ôl dioddef anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.

Mae dyn 40 oed o Hampshire eisoes wedi cael ei gyhuddo o ymosod gan achosi niwed corfforol difrifol, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 14 Tachwedd.

Mae’r heddlu’n apelio am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad, gan bwysleisio fod eu hymchwiliadau nhw yn parhau.

Digwyddodd yr ymosodiad ar y Kingsway yn agos i fanc Lloyds tua 12.40yb ddydd Sul, 27 Hydref.

“Mae dyn wedi’i arestio a’i gyhuddo o ymosod,” meddai’r ditectif arolygydd Julian Bull o CID Caerdydd. “Ond mae’r ymchwiliad yn parhau gennym ac rydym ni’n apelio ar unrhyw dystion i gysylltu a ni.

“Roedd yna lawer o bobl yn yr ardal ar y pryd ac rydym yn apelio i unrhyw dystion gysylltu â ni. Mae’r dioddefwr wedi cael anafiadau difrifol i’w ben ac mae’i deulu’n cael cefnogaeth gan swyddog cyswllt teulu ar hyn o bryd.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â CID Caerdydd ar 02920 527420, Heddlu De Cymru ar 101, neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r rhif 62130338374.