Llys y Goron Caerdydd
Mae’r areithiau cloi yn cael eu cyflwyno yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth dau ddyn drwy yrru’n beryglus.
Bu farw dau ddyn mewn damwain yng Nghwmbach, Aberdâr y llynedd wedi i gar pwerus Nissan daro yn erbyn car Citroen.
Mae gyrrwr y car Nissan, Darren Jarvis, wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth dau drwy yrru’n beryglus.
Mae Darren Jarvis yn gwadu’r cyhuddiadau, gan ddweud ei fod wedi cael trawiad ar y pryd.
Roedd Darren Jarvis, 42, a Lee Williams, 40, yn teithio yn y Nissan a Jacek Stawski, 38, a’i fab Thomas, 4, yn teithio ar ochr arall y lon mewn Citroen. Bu farw Lee Williams a Jacek Stawski yn y ddamwain.
Yn yr achos yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, dywedodd yr erlynydd, Gareth Jones, bod Darren Jarvis a’i gyfreithwyr yn “ceisio dianc rhag ei gyfrifoldeb o achosi marwolaeth dau o bobl” a’i fod wedi gyrru’n gyflym ac yn beryglus.
Ond dywedodd John Charles Rees QC ar ran yr amddiffyniad bod dyfais “bocs du” yn y Nissan wedi dangos nad oedd arwyddion bod y car wedi arafu neu frecio cyn y ddamwain.
Dywedodd bod hyn yn dangos bod Darren Jarvis wedi cael trawiad ac nad oedd yn ceisio “dangos ei hun” drwy yrru’n gyflym.
Mae Darren Jarvis yn honni nad ydy o’n cofio’r hyn a ddigwyddodd.