Mae Heddlu Swydd Stafford yn chwilio am dad wnaeth fynd a’i fab a’i ferch o ofal eu mam heb ganiatad.

Yn ôl yr heddlu yn Stoke on Trent mae nhw’n bryderus am les y plant Na’allah Khan dwy oed, a’i brawd Sulailman Khan deg mis oed.

Fe wnaeth Saleem Tahir fynd a nhw efo fo yn dilyn digwyddiad mewn gwesty yn y ddinas nos Wener.

Mae’n debyg bod nain y plant, Denise Smith-Sellers, hefyd efo Mr Tahir a’r plant.

“Mae Heddlu Swydd Staffordd yn annog y ddau – ac unrhyw un arall sydd gan wybodaeth all fod o help, i gysylltu efo swyddogion er mwyn i’r plant gael dychwelyd yn ôl yn ddiogel at eu tad,” yn ôl llefarydd ar ran y Llu.