Yr heddlu yn yr Alpau
Mae brawd hynaf y dyn saethwyd yn farw efo’i fam a’i fam-yng-nghyfraith yn yr Alpau wedi cyhuddo heddlu Ffrainc o guddio’r gwirionedd am yr hyn ddigwyddodd.

Mae Zaid al-Hilli, 53 oed, yn cael ei amau o fod â rhywbeth i’w wneud efo llofruddiaeth Saad al-Hilli, ei wraig Ikbal, a’i mam Suhaila al-Allaf.

Mae Mr al-Hilli o Lundain yn gwadu fod a wnelo fo unrhywbeth â’r ymosodiad gan ychwanegu mai beiciwr gafwyd yn farw gerllaw oedd gwir darged y llofrydd.

Mae’r heddlu yn credu bod y beiciwr, Sylvain Molier yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir ac yn canolbwyntio ar ffrae ac anghydfod rhwng y ddau frawd ynglyn âg ewyllys teuluol.

Mae Mr al-Hilli wedi cynnig sefyll prawf synhwyrydd celwyddau ond mae wedi gwrthod mynd i Ffrainc i gael ei holi.

“Tydw’i ddim yn trstio’r Ffrancwyr,” meddai. “Cafodd fy mrawd ei lofruddio yn ardal ac felly tydw’i ddim yn mynd i gymeryd y risg.”

Bydd y cyfweliad efo Mr al-Hilli yn cael ei ddarlledu ar raglen Panorama yfory.