Stuart Hall
Mae’r cyflwynydd teledu Stuart Hall yn wynebu rhagor o honiadau yn ei erbyn, meddai’r heddlu.

Fe gadarnhaodd Heddlu Sir Gaerhirfryn eu bod wedi derbyn “honiadau pellach” ynglŷn â Hall.

Cafodd cyn-gyflwynydd It’s a Knockout ei garcharu am 15 mis ym mis Mehefin ar ôl iddo gyfaddef 14 o achosion o ymosod yn anweddus ar ferched ifainc.

Cafodd ei ddedfryd ei ddyblu gan y Llys Apêl yn ddiweddarach yn dilyn cwynion ei fod yn “rhy drugarog.”