Mae Tesco ac Asda wedi ymddiheuro am werthu gwisg ffansi Calan Gaeaf oedd yn cael ei ddisgrifio fel gwisg “claf iechyd meddwl”.
Roedd gwisg Tesco yn dangos y geiriau ‘Psycho Ward’ a gwisg Asda ar ffurf ‘straitjacket’, ac wedi ei orchuddio â gwaed.
Mae’r ddwy archfarchnad wedi dweud eu bod yn difaru “achosi unrhyw ddrwgdeimlad.”
Annerbyniol
Mae nifer o bobol wedi bod yn trydar negeseuon yn barnu’r ddau gwmni am fod yn rhagfarnllyd. Gofynnodd Katie Dalton o ‘r elusen iechyd meddwl ‘Gofal’ yng Nghymru: “Annwyl Asda, a wnaethoch chi am eiliad feddwl sut y byddai hyn yn effeithio un mewn pedwar o bobol sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl bob blwyddyn?”
Wrth siarad ar BBC Radio 4, dywedodd Sue Barker o elusen Mind: “Mae naw o bob deg o bobol sy’n gwneud defnydd o wasanaethau iechyd meddwl yn cwyno am stigma gan nifer o wahanol ffynonellau.
“Mae Asda’n sicr wedi gwneud cam gwael yma.”
Mae’r ddau gwmni bellach wedi rhoi’r gorau i werthu’r gwisgoedd ac mae Asda am roi cyfraniad tuag at elusen Mind.