Arch April Jones
Mae angladd April Jones wedi cael ei gynnal yn Eglwys San Pedr ym Machynlleth prynhawn ma.
Cafodd arch wen y ferch 5 oed ei chludo o’i chartref ar stad Bryn y Gog drwy’r dref i’r Eglwys ychydig cyn hanner dydd.
Roedd rhieni April, Coral a Paul Jones, a’i chwaer a’i brawd, Jazmin a Harley, wedi dilyn ei harch i’r eglwys.
Daeth Machynlleth i stop wrth i alarwyr – nifer yn gwisgo pinc, neu rubanau pinc – hoff liw April – ymgynnull ar y strydoedd ac yn yr eglwys. Roedd aelodau o dimau achub mynydd, fu’n chwilio am April, ymhlith y galarwyr.
April Jones
April ‘wedi cyffwrdd ein bywydau ni i gyd’
Cafodd lluniau o April eu dangos i 300 o alarwyr ar sgrin deledu yn yr eglwys.
Y Parchedig Kathleen Rogers fu’n cynnal y gwasanaeth a dywedodd bod April “wedi cyffwrdd ein bywydau ni i gyd.”
Dywedodd: “Nid oes geirau all gyfleu ein teimladau ar hyn o bryd.
“Does dim geiriau i leddfu ein tristwch na lleihau ein poen.
“Rydym wedi ymgynnull i gofio April ym mhresenoldeb Duw, i ddathlu ei bywyd byr a galaru gyda’n gilydd gan ddweud ffarwel wrthi.”
Diolchodd Kathleen Rogers i bawb oedd wedi rhoi cymorth i’r teulu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar ran rhieni April.
Cafodd April Jones ei chipio ger ei chartref ar 1 Hydref y llynedd.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Mai cafwyd Mark Bridger, 47, yn euog o gipio a llofruddio April a’i garcharu am oes.
Nid yw ei chorff erioed wedi cael ei ddarganfod ond cafwyd hyd i weddillion ei chorff yng nghartref Mark Bridger yng Ngheinws.
Gardd April ar stad Bryn y Gog, lle'r oedd yn byw
Cafodd ei gweddillion eu rhyddhau i deulu April yn dilyn cwest i’w marwolaeth dros wythnos yn ôl, er mwyn caniatáu i’w theulu gynnal ei hangladd.
Fe fydd rhoddion o’i hangladd yn cael eu defnyddio i noddi merch 5 oed mewn pentref yn Uganda.