Mae cynllun wedi ei lansio gan y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, i baratoi disgyblion Cymru ar gyfer camu i’r byd gwaith.

Nod y cynllun arloesol ‘Ymgysylltu â Chyflogwyr ar Rifedd’, yw sicrhau fod disgyblion mewn ysgolion uwchradd yn deall pa mor bwysig yw meddu ar sgiliau rhifedd da er mwyn eu gwneud yn fwy cyflogadwy.

“Weithiau mae’n anodd i ddysgwr yn yr ystafell ddosbarth weld perthnasedd yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu i’r byd go iawn,” meddai’r Gweinidog Addysg.

Bydd cyflogwyr yn cydweithio gydag ysgolion er mwyn dangos sut mae mathemateg a rhifedd yn cael eu defnyddio’n ymarferol mewn gwahanol swyddi.

Pwyslais

Mae’r cynllun pum mlynedd o dan y Rhaglen Rhifedd Cenedlaethol yn gobeithio hyrwyddo a chodi proffil cwmnïau’r gymuned hefyd.

Daw’r cyhoeddiad wedi i’r Athro Dai Smith lansio adroddiad ddoe yn pwysleisio fod angen i’r Celfyddydau fod yn rhan ganolog o’r cynllun addysg yn hytrach nag yn eilradd i rifedd a llythrennedd.

Ond yn ôl Huw Lewis mae angen canolbwyntio ar “wella safonau llythrennedd a rhifedd i bawb, gan leihau effeithiau amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol.”

Bydd tri sefydliad, Techniquest, Techniquest Glyndŵr, a Steam Powered Stories, yn mynd ati i greu cysylltiadau rhwng ysgolion a busnesau.