Mae cynllun arloesol gwerth £120 miliwn i helpu i gymdeithasau tai godi 1,000 o dai fforddiadwy yng Nghymru, yn cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru.
Bydd ugain o Gymdeithasau Tai’n cymryd rhan yn y cynllun ym mhob un o’r 22 ardal awdurdod lleol gyda gwaith adeiladu ar gyfer y prosiectau cyntaf yn cychwyn yn ddiweddarach eleni.
Mae disgwyl i’r cymdeithasau tai rannu £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn am gyfnod o 30 mlynedd i’w galluogi i fenthyg arian gan fenthycwyr preifat.
Wrth lansio’r cynllun, dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, “Mae sicrhau tai fforddiadwy o ansawdd i bobl Cymru’n flaenoriaeth imi, ac felly mae’n bleser gen i lansio’r pecyn pwysig a newydd sbon hwn heddiw. Mae’n hollbwysig ein bod yn helpu’r sectorau preifat a chyhoeddus i adeiladu cartrefi newydd, fel ein bod yn gallu parhau i weithio tuag at ein targed o 7,500 o gartrefi fforddiadwy.”
Bydd y cwmni rheoli cyllid M&G Investments yn benthyg £98 miliwn i’r cynllun a bydd 20 o gymdeithasau tai sy’n rhan o’r cynllun hefyd yn benthyg £58 miliwn gan y cwmni.
Dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredwr Grŵp Tai Cymunedol Cymru,“Mae hwn wedi bod yn gyfle i arloesi gyda dulliau cyllido newydd; doedd llawer o’r cymdeithasau tai erioed wedi troi at fenthyciadau gwahanol (megis bondiau) o’r blaen. Mae’r bartneriaeth hon yn rhannu’r un nod, sef cynyddu’r cyflenwad tai.”
Ymysg y prosiectau sydd wedi eu cymeradwyo yn barod mae Tyddyn Pandy yng Nghaernarfon a Gwaun Helyg ym Mlaenau Gwent – a bydd rhagor yn dilyn ledled Cymru cyn bo hir.