Sainsbury’s ac Asda yw’r archfarchnadoedd diweddara i ostwng prisiau petrol.
O yfory ymlaen bydd Sainsbury’s yn torri pris petrol o hyd at 6c y litr a disel yn gostwng 4c y litr.
Mae hyn yn golygu na fydd cwsmeriaid yn talu mwy na 129.9c y litr am betrol a 136.9c am ddisel.
Daw cyhoeddiad Sainsbury’s ac Asda ar ôl i nifer o archfarchnadoedd eraill dorri prisiau petrol dros y dyddiau diwethaf.
Fe fydd Asda hefyd yn gostwng prisiau petrol yfory – fydd cwsmeriaid ddim yn talu mwy na 128.7c y litr am betrol a 135.7c am ddisel.