Nelson Mandela
Mae cyn-Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, yn ymateb i driniaeth yn ei gartref, yn ôl yr Arlywydd presennol Jacob Zuma.
Roedd Nelson Mandela wedi bod mewn cyflwr difrifol ers iddo adael yr ysbyty ar 1 Medi ar ôl tri mis o driniaeth ar gyfer haint ar yr ysgyfaint.
Mae tîm o arbenigwyr meddygol yn gofalu am Nelson Mandela, sy’n 95 oed, yn ei gartref yn Johannesburg, sydd wedi bod yn gyrchfan i gefnogwyr y cyn-Arlywydd ers iddo fynd yn sâl yn gynharach eleni.
Yn ôl adroddiadau gan Asiantaeth Newyddion De Affrica, dywedodd Jacob Zuma fod Nelson Mandela yn parhau i ymateb i driniaeth feddygol. Mae Jacob Zuma yn paratoi i gyflwyno araith o flaen Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.
Treuliodd Nelson Mandela 27 mlynedd yn y carchar cyn dod yn Arlywydd De Affrica yn 1994.