Mae Llywodraeth Prydain wedi camreoli ei phrosiect i ehangu’r gwasanaeth band eang cyflym mewn cymunedau gwledig, gan roi “monopoli llwyr” i BT, yn ôl pwyllgor o Aelodau Seneddol.

Yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, roedd Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) y Llywodraeth wedi cam-reoli’r broses yn llwyr, gan arwain at roi’r cytundebau i gyd i BT.

Mae’r pwyllgor wedi beirniadu’r llywodraeth gan mai dim ond dau gwmni a wnaeth gais am y cytundeb, sef BT a Fujitsu. Roedd Fujitsu wedi rhoi’r gorau i’r cais yn ddiweddarach.

Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, Margaret Hodge AS: “Gan nad oedd cystadleuaeth i ddarparu’r gwasanaeth, nid yw cwsmeriaid yn derbyn unrhyw fudd o’r broses a bydd BT yn berchen ar asedau gwerth £1.2 biliwn o arian cyhoeddus.”

Mae’n ymddangos bod pob un cytundeb ers Mehefin 2013 wedi cael ei roi i BT, gyda disgwyl i 18 cytundeb arall ddilyn yr un trywydd.

Mae Cynghrair y Trethdalwyr wedi croesawu adroddiad y Pwyllgor gan ddatgan bod yn rhaid i’r Llywodraeth sicrhau cystadleuaeth wrth ddyfarnu cytundebau fel bod cwsmeriaid yn cael gwerth am arian.

Dywedodd Dominique Lazanski o Gynghrair y Trethdalwyr, “Mae angen i BT fod yn gwbl agored ynglŷn â’r gost a’u cynlluniau i ddarparu gwasanaeth band eang er mwyn sicrhau nad yw arian cyhoeddus yn cael ei gam-ddefnyddio ac fel bod cwmnïau eraill yn cael y cyfle i lenwi’r bwlch sy’n cael ei adael yn wag gan BT.”

Dywedodd llefarydd ar ran y DCMS eu bod yn anghytuno gyda sylwadau’r Pwyllgor a’u bod yn mynd yn groes i gasgliadau’r Swyddfa Archwilio oedd yn dangos bod  proses y Llywodraeth yn lleihau’r gost i’r trethdalwr a’r risg.

Ac mae BT yn mynnu bod y trethdalwr yn cael “gwerth am arian” a bod y cwmni wedi bod yn “dryloyw o’r cychwyn cyntaf.”