Cocen
Mae erlynwyr wedi gwrthod ple dwy ddynes o Brydain oedd wedi ceisio smyglo cocên gwerth £1.5 miliwn o Beriw.

Roedd Michaella McCollum, 20, o Dungannon, Sir Tyrone, a Melissa Reid, 20, o Glasgow, wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad ddydd Mawrth wrth iddyn nhw ymddangos gerbron barnwr yn nhref Callao, ger y brifddinas Lima.

Ond mae erlynwyr wedi gofyn am ragor o wybodaeth cyn derbyn ple’r ddwy, sydd yn gobeithio y bydd eu dedfryd yn cael ei ostwng i chwe blynedd ac 8 mis yn y carchar.