Fe allai Llywodraeth Cymru yn wynebu toriadau o bron i £1.5 biliwn dros y pedair blynedd nesaf ynghyd â phwysau cynyddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ôl yr ymchwil diweddaraf.

Dywed adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Ariannol (IFS) y bydd y toriadau yma ar ben y 10% sydd wedi ei dorri ers 2010 ac mae’r adroddiad yn amcangyfrif y bydd y toriadau yn debygol o fod rhwng £800 miliwn a £1.4 biliwn.

Mae adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Ariannol yn cael ei lansio heddiw mewn cynhadledd arbennig a fydd yn edrych ar y penderfyniadau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru wrth iddi ddelio â’r heriau ariannol sydd i ddod.

Yn ôl yr adroddiad, mae disgwyl i’r pwysau cynyddol ar y gwasanaethau iechyd, cymdeithasol ac addysg arwain at doriadau mewn gwasanaethau eraill megis trafnidiaeth, diwylliant a’r diwydiant tai.

Dywedodd David Phillips, awdur yr adroddiad ac economegydd gyda’r Sefydliad Astudiaethau Ariannol, “Mae cynlluniau i wneud arbedion ar draws y DU yn awgrymu pedair blynedd arall o doriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru ar ben y toriadau sydd eisoes wedi cael eu gweithredu ers 2010.”

Mae disgwyl i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael ei chyhoeddi ar Hydref 8.

Ychwanegodd David Phillips, “Hyd yn oed pe bai cynnydd o 20% yng nghyllideb Llywodraeth Cymru rhwng 2017-18 a 2025-26, fe fyddai dal angen gwneud penderfyniadau anodd.”