Fe fydd tri dyn yn mynd gerbron ynadon Cwmbran heddiw ar gyhuddiad o droseddau’n ymwneud a chaethwasiaeth ar safle teithwyr yng Nghasnewydd.

Mae Thomas Doran, Daniel Doran a David Daniel Doran wedi eu cyhuddo o garcharu ar gam, cynllwynio i gadw person mewn caethwasiaeth a chynllwynio i sicrhau bod person yn cyflawni llafur gorfodol, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Mae Thomas Doran hefyd wedi ei gyhuddo o herwgipio drwy dwyll.

Daw’r cyhuddiadau ar ôl i drydydd person gael eu darganfod gan  Heddlu Gwent ar safle i deithwyr.

Fe gadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i ddyn 60 oed ar safle yn ardal Llansanffraid Gwynllŵg, Casnewydd. Yn gynharach yr wythnos hon, cafodd dyn o Wlad Pwyl ei symud o fferm gerllaw yn Llanbedr Gwynllŵg.

Fe ddechreuodd ymchwiliad yr heddlu yn gynharach eleni, ar ôl i ddyn, oedd wedi bod ar goll ers mwy na degawd, ei ddarganfod ar fferm yn Llanbedr Gwynllŵg.

Cafodd Darrell Simester o Kidderminster yn Sir Gaerwrangon ei ddarganfod ar safle i deithwyr  yn Llanbedr Gwynllŵg. Roedd wedi diflannu 13 mlynedd yn ôl tra ar wyliau ym Mhorthcawl.

Mae pedwar o bobl eraill wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad, Operation Imperial.