Mae nifer wedi cael eu hanafu mewn damwain rhwng oddeutu 100 o gerbydau ar bont yng Nghaint.
Yn ôl adroddiadau mae chwech o bobl wedi’u hanafu’n ddifrifol a 200 yn dioddef o fan anafiadau.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r ddamwain ar bont newydd Sheppey ar yr A249 yng Nghaint, toc wedi 7.15yb.
Dywedodd llefarydd o Heddlu Caint bod niwl yn broblem yn yr ardal bore ma, ond nad oes cadarnhad eto ynglŷn â beth yn union achosodd y ddamwain. Meddai,
“Mae rhai anafiadau wedi bod yn sgil y ddamwain ond does dim modd cadarnhau ar hyn o bryd pa mor ddifrifol ydyn nhw.”
Mae gyrwyr y cael eu cynghori i osgoi’r ardal.