Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen y Bont
Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg gynnal cyfarfod brys yn ddiweddarach heddiw i drafod cwynion am safonau gofal a diogelwch Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen y Bont.
Mae pryderon wedi codi ynglŷn â gofal cleifion yn yr ysbyty ar ôl honiadau fod nodiadau meddygol wedi cael eu ffugio a’r gyfradd uchel o farwolaethau yn yr ysbyty.
Mae tri nyrs wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i’r honiadau o ffugio nodiadau meddygol a ddaeth yn sgil ymchwiliad arall gan yr Ombwdsmon i honiadau fod claf oedrannus wedi cael ei esgeuluso tra yn yr ysbyty.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am wasanaethau iechyd yn Abertawe, Pen y Bont, Castell Nedd a Phort Talbot.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd eu bod wedi dechrau ar y gwaith o wella gwasanaethau a bod mwy o waith i’w wneud yn y misoedd nesaf.
Dywedodd cyfarwyddwr meddygol dros dro’r bwrdd, Dr Push Mangat: “Unwaith y daeth i’r amlwg bod nifer o broblemau yn yr ysbyty, cafodd y penderfyniad ei wneud i gydweithio er mwyn mynd i’r afael a’r problemau, yn lle gweithio yn unigol drwy drefn arferol y bwrdd. Ers i’r problemau yma gael eu hamlygu, mae nifer o gamau sylweddol wedi eu gweithredu.”
Rai wythnosau yn ôl dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies AC, ei fod yn pryderu yn arw am sefyllfa’r Bwrdd Iechyd a’r ffordd yr oedd y bwrdd yn delio â chwynion gan berthnasau cleifion.