Chris Grayling
Yn ôl adroddiadau mae’r Llywodraeth yn bwriadu sgrapio rhai o’i chynlluniau wrth gyflwyno newidiadau i gymorth cyfreithiol.
Dywed y Times bod yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling yn bwriadu newid ei gynlluniau i wobrwyo cytundebau i’r cwmnïau sy’n cynnig gwneud y gwaith am y prisiau isaf.
Mae’n dilyn beirniadaeth o’r cynllun gan yr AS Llafur Karl Turner oedd yn bryderus y byddai’n arwain at gwmnïau preifat fel G4S a Serco yn cael lle blaenllaw yn y farchnad cymorth cyfreithiol ar draul cwmnïau llai oedd a mwy o arbenigedd.
Yn ôl y Times, ni fydd pris yn ffactor bellach wrth wobrwyo cytundebau.
Bwriad y newidiadau yw cyfyngu faint o bobl gan gynnwys carcharorion, tramorwyr a’r cyfoethog – sy’n gallu cael cymorth cyfreithiol.