Tabledi ecstasi
Mae arolwg newydd yn dangos na fyddai traean o gyflogwyr Cymru yn gwybod pe byddai eu staff o dan ddylanwad cyffuriau tra yn y gwaith.

Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal ddydd Iau ym Mhrifysgol De Cymru i drafod defnydd cyffuriau yn y gweithle wrth i ffigyrau ddangos bod y nifer sy’n defnyddio’r cyffur mephedrone yng Nghymru, wedi cynyddu.

Yn ôl yr arolwg, gan gwmni RMG ar ran cwmni iechyd Synergy Health, mae 80% o’r busnesau a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg yn meithrin polisïau llym yn erbyn y defnydd o gyffuriau yn y gweithle, gyda nifer tebyg yn credu bod defnyddio cyffuriau tu allan i oriau gwaith yn debygol o gael dylanwad ar berfformiad gweithwyr yn eu swyddi.

Dangosodd yr arolwg hefyd na fyddai gan 35% o gyflogwyr ddigon o wybodaeth i wybod a oedd aelod o staff dan ddylanwad cyffuriau yn y gwaith.

Mae ffigyrau gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod oddeutu un o bob tri o bobl ifanc rhwng 16 a 24 yn defnyddio cyffuriau.