Iain Duncan Smith
Mae’r Llywodraeth wedi cael ei beirniadu am ei newidiadau i fudd-daliadau drwy gyflwyno’r Credyd Cynhwysol.
Mewn adroddiad damniol, mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) yn dweud bod y Llywodraeth wedi rhuthro i gyflwyno’r cynllun heb wybod sut y byddai’n gweithio.
Ychwanegodd bod y cynllun wedi dioddef oherwydd “rheolaeth wan ac aneffeithiol”.
Mae disgwyl i Gredyd Cynhwysol, a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan Smith, gymryd lle budd-daliadau eraill erbyn 2017 gyda’r Llywodraeth yn amcangyfrif y bydd yn arbed £38 biliwn erbyn 2023.