Vladimir Putin
Mae disgwyl i’r tensiynau ynglŷn â Syria fod yn flaenllaw heddiw wrth i arweinwyr byd ddod at ei gilydd yn uwchgynhadledd y G20 yn Rwsia.

Wrth i’r Unol Daleithiau nesáu at weithredu’n filwrol yn erbyn llywodraeth Bashar Assad, mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi rhybuddio yn erbyn grym milwrol.

Mae’n debyg na fydd y Prif Weinidog David Cameron yn cymryd rhan mewn trafodaethau gydag Arlywydd America Barack Obama ar ôl iddo ddiystyru ymyrraeth filwrol gan Brydain yn dilyn pleidlais yn y Senedd wythnos diwethaf.

Mae Barack Obama yn ceisio cael cefnogaeth ryngwladol i ymyrraeth filwrol i ymateb i’r ymosodiad gydag arfau cemegol honedig yn Namascus ar 21 Awst.

Neithiwr fe lwyddodd Obama i gael cefnogaeth pwyllgor materion tramor dylanwadol i ddefnyddio grym yn Syria gan olygu y bydd y Gyngres yn pleidleisio ar y mesur wythnos nesaf.

Gwrthryfelwyr Syria yn cwrdd â Hague

Yn y cyfamser fe fydd gwrthryfelwyr Syria yn cwrdd â’r Ysgrifennydd Tramor William Hague heddiw.

Fe fydd arweinwyr Clymblaid Genedlaethol Syria (SNC) yn trafod y datblygiadau diweddaraf gyda William Hague wrth i Brydain bwyso am ddatrysiad gwleidyddol  i’r argyfwng.

Ond mae  Monzer Akbik o’r SNC wedi dweud ar raglen Newsnight y BBC nad oes dewis ond defnyddio grym yn erbyn Assad a bod gan y gymuned ryngwladol gyfrifoldeb i’r ddod a’r gyflafan yn Syria i ben.