Neil McEvoy
Fe allai Cyngor Dinas Caerdydd ystyried dyfodol addysg Saesneg yn ogystal ag addysg Gymraeg wrth wynebu galwadau am ysgol gynradd newydd.
Fe ddaeth y cyhoeddiad ar ôl i arweinydd addysg y Cyngor dynnu cynlluniau’n ôl mewn cyfarfod arbennig o un o’r pwyllgorau craffu ddoe – ar ol i’r Cynghorydd Neil McEvoy gyfeirio’r mater atyn nhw.
Yn awr, mae Julia Magill yn argymell y dylai’r cabinet ddechrau proses ymgynghori ynglŷn ag addysg Gymraeg mewn tair ardal yn y ddinas – Treganna, Grangetown a Glanyrafon.
Y cefndir
Roedd cabinet y Cyngor wedi gwrthod galwadau am ysgol Gymraeg newydd yn ardal Trebiwt a Grangetown, gan argymell ychwanegu at ysgol yn yr ardal drws nesa’.
Fe arweiniodd hynny at brotestiadau a’r cyfarfod brys o’r pwyllgor craffu ar addysg pan gyhoeddodd Julia Magill yn annisgwyl ei bod am fynd yn ôl at y cabinet gydag argymhelliad newydd.
Mae ymgyrchwyr tros addysg Gymraeg yn mynd i wneud cwyn swyddogol yn erbyn rhai o uchel swyddogion yr Adran Addysg ac am fynd â’r mater gerbron tri ombwdsmon gwahanol.
Ond, yn ôl y Cyngor, y broblem yw fod angen lledaenu’r broses ymgynghori i gynnwys addysg Gymraeg a Saesneg.
‘Darlun llawn’
Meddai llefarydd: “Fe fydd hyn yn rhoi darlun llawn i’r Cyngor ac yn arwain at weithredu cytbwys sydd wedi ei gynllunio ac a fydd yn rhoi ateb digonol i’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn yr ardaloedd hyn.”
Mae un o gyd-gadeiryddion Ymgyrch Trebiwt a Grangetown, Dyfed Huws, eisoes wedi mynegi pryder y gallai’r Cyngor osod rhieni Cymraeg a rhieni Saesneg eu hiaith yn erbyn ei gilydd.