Mae diffoddwyr tân wedi pleidleisio o blaid cynnal streic yn yr anghydfod ynglŷn â phensiynau, yn ôl Undeb y Brigadau Tân.
Roedd aelodau o undeb yr FBU wedi pleidleisio o blaid gweithredu’n ddiwydiannol o 18,277 o bleidleisiau i 5,166, mwyafrif o 78%.
Dywed yr undeb bod newidiadau arfaethedig i bensiynau yn golygu y bydd diffodwyr yn gorfod cyfrannu mwy at eu pensiwn ac y byddan nhw’n wynebu’r risg o gael eu diswyddo heb bensiwn llawn os nad ydyn nhw’n llwyddo i gyrraedd safonau ffitrwydd pan fyddan nhw’n cyrraedd yr oedran ymddeol o 60.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr FBU Matt Wrack nad oedd yr aelodau eisiau cynnal streic ond “nid ydym yn fodlon cyfaddawdu diogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tan”. Maen nhw’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn dychwelyd i’r bwrdd trafod i ymateb i’w pryderon, meddai.