David Cameron
Mae’r Blaid Lafur wedi cadarnhau y bydd yn pleidleisio heno yn erbyn yr egwyddor o ymyrraeth filwrol yn Syria ar ôl i’r Llywodraeth gyhoeddi cyngor cyfreithiol oedd yn gefnogol i weithredu’n filwrol.
Fe fyddai Prydain yn cael yr hawl i gynnal ymosodiad ar sail ddyngarol, hyd yn oed os yw Rwsia a China yn ceisio atal penderfyniad Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, yn ôl dogfennau sydd wedi eu cyhoeddi gan Downing Street.
Mae tystiolaeth gan gydbwyllgor gwybodaeth wedi darganfod bod ymosodiad arfau cemegol wedi cael ei gynnal yn Namascus wythnos ddiwethaf a’i fod yn “debygol iawn” mae llywodraeth Bashar Assad oedd yn gyfrifol.
Ond mae Llafur yn mynnu cael “tystiolaeth gadarn” cyn rhoi cefnogaeth i’r Llywodraeth i ymyrryd.
Dywedodd ffynhonnell ar ran y blaid eu bod nhw wedi cael amheuon am “natur anhryloyw” cynnig y Llywodraeth.
“Nid oes unrhyw son am dystiolaeth gadarn,” meddai’r ffynhonnell.
Mae Aelodau Seneddol yn trafod yr egwyddor o ymyrraeth yn Syria yn y Senedd prynhawn ma. Dywedodd David Cameron nad oedd “sicrwydd 100%” pwy oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad arfau cemegol wythnos diwethaf ond dywedodd ei fod wedi ei argyhoeddi gan y dystiolaeth mai lluoedd Assad oedd y tu ol i’r ymosodiad.