Mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol yng ngorllewin de Cymru wedi ysgrifennu at Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gwrthwynebu eu bwriad i gau gorsaf dân Porthcawl.
Mae llythyr Peter Black yn ymateb i gynigion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy’n cynnwys cau gorsaf dân Porthcawl gan ei ddisodli gyda gorsaf newydd yng Nghorneli.
Byddai gorsaf dân Mynydd Cynffig hefyd yn cau a byddai’r offer sydd ar gael i swyddogion tân yn cael ei haneru.
‘Peryglu trigolion’
Dywedodd Peter Black: “Rwy’n gwrthwynebu’r cynnig yma’n llwyr ar sail y bydd yn peryglu trigolion ac ymwelwyr i Borthcawl.
“Mae’r model cyfrifiadurol y mae penderfyniad y Gwasanaeth Tân wedi ei seilio arno’n defnyddio ffigurau o 7,000 o dai a 16,000 o bobl ar gyfer Porthcawl.
“Mae’r rhain yn y ffigurau ar gyfer trigolion parhaol. Fodd bynnag, nid ydynt yn ystyried nifer y twristiaid sy’n ymweld â Phorthcawl, ac nid ydynt yn ystyried datblygiadau tai a datblygiadau eraill ar gyfer yr ardal yn y dyfodol.”
Ar hyn o bryd, mae un o barciau carafanau mwyaf Ewrop ym Mhorthcawl. Mae lle i hyd at 10,000 o bobl ym mharc carafanau Trecco Bay.
‘Adolygiad yn hanfodol’
Maeddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mai dyma’r tro cyntaf ers sefydlu’r gwasanaeth yno yn 1996 eu bod nhw wedi ystyried – ar raddfa mor fawr – y bobl, offer a cherbydau sydd ar gael a lle maen nhw wedi’u lleoli.
Meddai hefyd bod yr adolygiad yn hanfodol er mwyn bodloni gofynion cymunedau ar draws De Cymru.