Christine Chapman, Cadeirydd y pwyllgor
Dylai Llywodraeth Cymru geisio am ragor o bwerau ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Fel arall, medden nhw, mae peryg y bydd deddfau pwysig yn cael eu colli os bydd Llywodraeth Prydain yn cael gwared ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Clywodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fod Cymru yn ymdrin â phethau mewn ffordd wahanol i Loegr.
Mae rhai meysydd o ddeddfwriaeth cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus wedi eu datganoli i Gymru ond gallai rhai cyfreithiau sydd yn y maes golli eu grym yn syth pe bai Llywodraeth Prydain yn diddymu Deddf Cydraddoldeb 2010.
Meddai’r Cadeirydd
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bod eisiau gwarchod gwaith sydd wedi ei wneud yng Nghymru gan y Llywodraeth a’r Comisiwn Cydraddoldeb.
Mae’r pwyllgor yn pryderu ynglŷn â’r toriad yn yr arian ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac mae awgrym wedi ei wneud y dylai Llywodraeth Cymru gyfrannu arian o’i phoced ei hun.
“Prif ddiben y penderfyniad yw gwarchod y gwaith a wnaed eisoes gan y Comisiwn, Llywodraeth Cymru a sefydliadau cysylltiedig eraill i gael gwared ar ragfarn a gwahaniaethu yng Nghymru, ac i gydnabod bod dulliau gwahanol o ymdrin â’r materion hyn yng Nghymru a Lloegr,” meddai Christine Chapman.
“Hoffai’r Pwyllgor weld perthynas gryfach a mwy ffurfiol rhwng y Comisiwn, Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad, ac mae wedi penderfynu cwrdd â’r Comisiwn bob blwyddyn i drafod ei waith.
“Credwn hefyd fod achos i Lywodraeth Cymru ariannu gwaith y Comisiwn o fonitro a gorfodi dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Argymhellion
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 8 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y rhain:
– Dylai Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru sefydlu concordat neu gytundeb i greu perthynas fwy ffurfiol rhyngddyn nhw wrth ymdrin â meysydd polisi sydd wedi eu datganoli.
– Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyllido agweddau penodol ar waith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn enwedig gwaith yn ymwneud â monitro a gorfodi dyletswyddau cydraddoldeb yng Nghymru.
– Dylai Llywodraeth Cymru geisio pwerau ychwanegol ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol a fyddai’n adeiladu ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998.