Jeffrey Howard Davies
Mae cyn blismon gyda Heddlu De Cymru a gafodd ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes wedi cael ei ddiswyddo yn ffurfiol heddiw.
Roedd Jeffrey Howard Davies, 42 oed, yn swyddog cyswllt teuluol gyda Heddlu’r De pan ymosododd ar y ddwy ddynes, oedd wedi dioddef trais yn y cartref yn 2010.
Cafodd ei garcharu am dair blynedd yn gynharach y mis hwn.
Daeth y diswyddiad yn dilyn gwrandawiad disgyblu a gafodd ei gadeirio gan y Prif Gwnstabl Peter Vaughan.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Peter Vaughan: “Roedd Jeffrey Davies mewn sefyllfa o ymddiriedaeth ond cafodd yr ymddiriedaeth honno ei fradychu gan ei ymddygiad troseddol. Mae ei weithredoedd yn gwbl annerbyniol ac mae wedi siomi ei gydweithwyr a’r cymunedau yr oedd yn eu gwasanaethu.
“Mae’r ymchwiliad trylwyr a phenderfynol a gynhaliwyd gan Heddlu De Cymru ac a gafodd ei reoli gan yr IPCC yn dangos ein bod ni’n benderfynol o fynd i’r afael ag ymddygiad o’r math hwn.”