Rolf Harris
Mae’r arlunydd a’r cyflwynydd teledu Rolf Harris wedi cael ei gyhuddo o naw achos o ymosod yn anweddus a phedwar cyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant, cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron heddiw.
Mae Rolf Harris, 83 oed, wedi ei gyhuddo o’r troseddau honedig rhwng 1980 a 1986 sy’n ymwneud a dau blentyn, oedd yn 14 a 15 ar y pryd.
Cafodd ei arestio’r tro cyntaf ar 29 Tachwedd y llynedd fel rhan o Operation Yewtree sy’n ymchwilio i honiadau o droseddau rhyw, ond ni chafodd ei enw ei gyhoeddi tan fis Ebrill.
Nid oes gan yr honiadau yn erbyn Rolf Harris gysylltiad gyda’r honiadau yn erbyn y cyflwynydd Jimmy Savile.
Fe fydd Harris yn mynd gerbron Llys Ynadon Westminster ar 23 Medi.