Mae chwech o awyrennau’r Llu Awyr wedi cael eu hanfon i Cyprus i ddiogelu buddiannau’r DU meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Bydd yr awyrennau rhyfel yn cael eu hanfon i Akrotiri yng Nghyprus heddiw ond nid ydyn nhw’n cael eu hanfon yno er mwyn cael eu defnyddio i gymryd rhan mewn gweithredu milwrol yn erbyn Syria yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: “Mae hwn yn fesur rhagofal doeth er mwyn sicrhau y diogelir buddiannau’r DU ar adeg o densiwn cynyddol yn y rhanbarth ehangach.
“Nid ydynt yn cael eu hanfon i gymryd rhan mewn unrhyw weithredu milwrol yn erbyn Syria.
“Mae’r Prif Weinidog wedi gwneud yn glir nad oes penderfyniad wedi’i wneud am ein hymateb ac mae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin cyn ymyrraeth filwrol uniongyrchol.”
Mae tua 2,500 o staff milwrol a sifil y DU ar ynys Cyprus ynghyd â thua 3,000 o aelodau o’u teuluoedd.
Yn y cyfamser mae Nick Clegg wedi dweud y bydd cyngor cyfreithiol a thystiolaeth sydd wedi cael ei chasglu gan ymchwilwyr ynglŷn â gweithredu’n filwrol yn Syria yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi mynnu bod y Llywodraeth “yn gwneud popeth yn ei gallu” i ymateb i bryderon Aelodau Seneddol a’r cyhoedd ynglŷn â’r posibilrwydd o ymyrraeth filwrol gan y DU. Mae’n dilyn ymosodiad arfau cemegol honedig yn Namascus wythnos diwethaf lle cafodd 355 o bobl eu lladd.