Llwybr Llen Llanfihangen Genau'r Glyn Llun: Phil Jones
Fel mae’r hen enw telynegol yn ei awgrymu, mae Llanfihangel Genau’r Glyn yn uchel yn nhabl enwau prydferthaf y wlad.
Nid yw yn syndod felly fod cymuned Llandre yng Ngogledd Ceredigion wedi cael ei ddisgrifio fel un o’r pentrefi mwyaf barddol yng Nghymru.
Mae nifer o feirdd adnabyddus yn byw yn y gymuned ac mae pentref Llandre wedi eu galw ynghyd i ymryson mewn Talwrn yn y Parc ym mharc chwarae’r pentref – yr unig Dalwrn y Beirdd i’w gynnal yn yr awyr agored, yn ôl y sôn.
Ceri Wyn yw’r Meuryn a bydd pedwar tîm yn cystadlu ar nos Wener 6 Medi am 6yh – Tîm Llanfihangel Genau’r Glyn, Tîm Talybont, Tîm Aberystwyth a’r Glêr.
‘Dathlu’r traddodiad barddol’
Mae’r traddodiad barddol yn mynd yn ôl i o leia’r ddeuddegfed ganrif pan oedd llysoedd Glanfrêd a Glenleri yn noddi beirdd, meddai Geraint Williams sy’n trefnu’r Talwrn ac sy’n aelod o Dîm y Cŵps.
Roedd Dafydd ap Gwilym yn crwydro’r ardal ac mae’r traddodiad yn fyw iawn yn y pentref heddiw gyda nifer o feirdd yn byw yn lleol.
“Mae’n gyfle ardderchog i ni ddathlu’r traddodiad barddol yn yr ardal ddoe a heddiw”, meddai.
Trefnir Talwrn yn y Parc gan Fanc Bro Llanfihangel Genau’r Glyn, y grŵp cymunedol a sefydlwyd yn sgil yr ymdrech lwyddiannus i godi arian i Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010.
“Mae llwyfannu’r Talwrn gyda nifer o feirdd gorau Cymru yn dipyn o sialens i gymuned fechan ac rydym yn gobeithio am noson braf ac yn gofyn i bobol ddod â chadeiriau haul a’i lluniaeth gyda nhw.
“Bydd band gwerin Gymreig hefyd yn darparu cerddoriaeth wedi’r ymryson,” medd Wynne Melville Jones Cadeirydd Banc Bro Llanfihangel Genau’r Glyn.