Fe fydd cynnydd o 25% yn nifer y bobl sy’n marw mewn damweiniau o ganlyniad i yfed a gyrru, yn ôl ffigurau’r Llywodraeth heddiw.

Mae’r ffigurau’n amcangyfrif bod 290 o bobl wedi eu lladd mewn damweiniau yfed a gyrru ym Mhrydain yn 2012 – tua 25% yn fwy na’r ffigwr o 230 yn 2011, yn ôl yr Adran Drafnidiaeth.

Mae’r ffigurau ar gyfer 2012 yn waeth gan fod cyfanswm y rhai gafodd eu lladd yn 2011 wedi cyrraedd ei lefel isaf ers i gofnodion ddechrau ym 1979.

Roedd 250 o ddamweiniau yfed a gyrru oedd wedi arwain at farwolaethau yn 2012, o’i gymharu â 220 yn 2011.

Bu gostyngiad yn y cyfanswm o 6,680 yn nifer y damweiniau’n ymwneud ag yfed a gyrru’r llynedd – o’i gymharu â 6,690 yn 2011.

O’r rhai gafodd eu lladd mewn damweiniau yfed a gyrru, roedd y mwyafrif – 68% – yn yrwyr oedd wedi yfed mwy na’r hyn sy’n gyfreithiol. Roedd y gweddill – 32% – yn bobl oedd yn gysylltiedig â’r ddamwain ond ddim o angenrheidrwydd wedi bod yn yfed a gyrru.

Er bod y ffigurau wedi cynyddu’r llynedd, mae nifer y rhai sy’n marw mewn damweiniau yfed a gyrru wedi gostwng yn sylweddol ers y 70au a’r 80au pan fu 1,400 o farwolaethau.