Mae Aelodau Seneddol yn Uruguay wedi cymeradwyo mesur a fyddai’n cyfreithloni marijuana.

Os yw’r mesur yn cael ei gymeradwyo gan y Senedd, Uruguay fyddai’r wlad gyntaf i reoleiddio sut mae marijuana yn cael ei gynhyrchu, dosbarthu a’i werthu.

Mae’r mesur yn cael ei gefnogi gan lywodraeth yr Arlywydd Jose Mujica sy’n dadlau y bydd yn cymryd elw oddi ar gyflenwyr cyffuriau ac yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem gyffuriau yn y wlad.

Mae ASau wedi dadlau bod y mesur yn werth ei ystyried gan fod y frwydr yn erbyn cyffuriau wedi bod yn fethiant.

O dan y mesur, dim ond y llywodraeth fyddai’n cael gwerthu marijuana.

Fe fyddai pobl sy’n prynu’r cyffur yn gorfod bod dros 18 oed a chael eu cofrestru ar gronfa ddata . Fe fyddan nhw’n gallu prynu hyd at 40g o’r cyffur bob mis o fferyllfeydd trwyddedig neu dyfu hyd at chwe phlanhigyn yn eu cartrefi.

Ni fydd tramorwyr yn cael cymryd mantais o’r mesur.

Yn ôl rhai sy’n gwrthwynebu’r mesur, mae’r llywodraeth yn “chwarae â thân” ac nid yw wedi ystyried risg marijuana gan ddweud y gallai arwain at ddibyniaeth ar gyffuriau eraill fel cocên.