Bygythiadau bomio yw’r negeseuon trydar diweddara’ i ddod i sylw’r heddlu.

Fe gadarnhaodd Heddlu Llundain eu bod wedi derbyn nifer o gwynion gan newyddiadurwyr benywaidd am negeseuon ar wefan gymdeithasol Twitter.

Roedd yr un neges wedi ei hanfon at nifer ohonyn nhw, yn dweud bod bom wedi ei gosod y tu allan i’w cartrefi.

Fe gafodd un o’r newyddiadurwyr, Hadley Freeman o’r Guardian, gyngor i adael ei chartre’r noson honno.

Galw am well rheolaeth

Mae hi a’r newyddiadurwyr eraill wedi galw ar Twitter i gael gwell rheolaeth ar negeseuon cas a ffiaidd.

“Os yw hi’n anghyfreithlon i fygwth bomio maes awyr, mae’n anghyfreithlon i fygwth fy momio fi,” meddai Hadley Freeman.

Fe gadarnhaodd yr heddlu bod negeseuon o’r fath yn drosedd.

Deiseb fawr

Mae 100,000 o bobol bellach wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar y cwmni i weithredu.

Mae’r helynt diweddara’n dilyn cyfres o negeseuon bygythiol a ffiaidd at ymgyrchwyr hawliau menywod.

Mewn dau achos gwahanol, mae dau ddyn yn eu hugeiniau wedi cael eu harestio am hynny, a’u rhyddhau ar fechnïaeth.