Mae Llywodraeth Prydain yn dweud eu bod yn ystyried ymestyn cynllun petrol rhatach i ragor o ardaloedd gwledig – ac mae pedair sir yng Nghymru dan ystyriaeth.
Fe gyhoeddodd Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, eu bod yn casglu gwybodaeth am brisiau petrol a disel mewn 35 o ardaloedd, gan gynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Powys a Sir Fynwy.
Fe fyddan nhw’n gwneud cais i’r Undeb Ewropeaidd am hawl i roi sybsidi i rai ardaloedd anghysbell – gan ychwanegu at gynllun sydd eisoes yn bod yn ynysoedd gogledd yr Alban.
Holi gwerthwyr
Mae’r Llywodraeth yn holi 1,500 o werthwyr am brisiau tanwydd er mwyn gweld a yw costau dosbarthu’n ddigon uchel i gyfiawnhau cais am gymorth.
Mae’r sybsidi wedi bod o gymorth i’r ynysoedd, meddai Danny Alexander, sy’n dod o ucheldiroedd yr Alban.
Ond fe rybuddiodd y byddai’n anodd iawn perswadio’r Comisiwn Ewropeaidd a gwledydd eraill bod sybsidi’n gyfiawn ac mae rhai mudiadau moduro wedi galw am ostwng y dreth ar betrol a disel trwy wledydd Prydain i gyd.