Ynys Môn
Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi agor bore ma wrth i drigolion Ynys Môn ddechrau’r broses o ddewis eu Haelod Cynulliad nesaf.
Mae chwech yn ymgeisio am sedd yn yr isetholiad, a gafodd ei alw ar ôl i Ieuan Wyn Jones gyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i’w sedd er mwyn arwain Parc Gwyddoniaeth Menai.
Dyma’r trydydd tro yn unig i isetholiad gael ei alw yn hanes y Cynulliad.
Y chwe ymgeisydd yw Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Tal Michael (Llafur), Neil Fairlamb (Ceidwadwyr); Nathan Gill (Ukip); Steve Churchman (Democratiaid Rhyddfrydol) a Kathrine Jones (y Blaid Lafur Sosialaidd).
Fe fydd y gorsafoedd pleidleisio yn agor rhwng 7am a 10pm, ac mae disgwyl y canlyniad yn ystod oriau man bore Gwener.