Roedd yna rywfaint o newyddion da i Radio Cymru yn y ffigurau gwrando diweddara’.

Fe gododd nifer y gwrandawyr o 22,000 yn ystod y chwarter hyd at ddiwedd Mehefin – i gyfanswm o 141,000.

Ffigurau’r chwarter cynt oedd yr isa’ erioed yn hanes yr orsaf.  Cyn i’r ffigurau yna gael eu cyhoeddi cafodd ‘Sgwrs Fawr’ ei lansio am ddyfodol y gwasanaeth.

Mae’r ffigurau diweddara’ hefyd yn well nag yr oedden nhw yr un amser y llynedd pan oedd 131,000 yn gwrando.

Roedd ffigurau Radio Wales hefyd wedi codi, i 499,000 sy’n gynnydd o 55,000 ar y chwarter cynt. Ond mae 530,000 yn gwrando ar Real Radio Wales.