Margaret Thatcher
Roedd Llywodraeth Margaret Thatcher wedi ystyried defnyddio milwyr i helpu torri streic fawr y glowyr.

Mae hynny’n cael ei ddatgelu ym mhapurau’r Cabinet ar gyfer 1983, sydd newydd gael eu rhoi ar gael i’r cyhoedd.

Mae’r cofnodion hefyd yn dangos pa mor dda yr oedd y Llywodraeth wedi paratoi ar gyfer y streic a ddechreuodd yn 1984.

Pwyllgor arbennig

Roedd pwyllgor arbennig yn y Llywodraeth – o’r enw MISC 57 – wedi bod yn gweithio ers ymhell dros flwyddyn ynglyn a wynebu Undeb y Glowyr o dan eu harweinydd, Arthur Scargill.

Un syniad oedd defnyddio milwyr i symud glo i orsafoedd ynni – er bod gweision sifil yn rhybuddio y gallai hynny achosi problemau anferth o ran cyfraith a threfn.

Roedd y Llywodraeth hefyd wedi prynu tir y drws nesa’ i orsafoedd er mwyn crynhoi cyflenwadau glo ac wedi addasu gorsafoedd i weithio ar olew pe bai raid.

Yn nechrau 1983, roedd yr Ysgrifennydd Ynni ar y pryd, y darpar Ganghellor Nigel Lawson, wedi nodi bod y Llywodraeth yn barod i wynebu streic hir ac yn ffyddiog y bydden nhw’n gallu dal ati’n ddi-ben draw.

Merched Greenham – ecsentrig

  • Mae cofnodion eraill yn dangos bod Margaret Thatcher yn ystyried mai llwyth o bobol “ecsentrig” oedd merched y gwersyll yng Nghomin Greenham, a oedd wedi’i sefydlu gan fenywod o Gymru.

Roedd araith hefyd wedi ei sgrifennu ar ran Y Frenhines yn cyhoeddi Trydydd Rhyfel Byd – hynny’n rhan o ymarfer ar gyfer rhyfel niwclear.