Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymddwyn yn awdurdodus wrth orfodi CBAC i ailraddio canlyniadau TGAU y llynedd.
Fe ddywedodd cyn Gadeirydd CBAC wrth y BBC mai’r Llywodraeth oedd yr elfen “ddi-glem” yn y stori.
Yn ôl y Cynghorydd David Lewis, doedd y Llywodraeth ddim wedi ystyried cymhlethdod y sefyllfa wrth orfodi’r ailraddio.
Fe arweiniodd hynny at godi graddau 1,800 o ddisgyblion yn eu harholiad Saesneg Iaith.
“Gwirion” meddai Leighton Andrews
Yn ôl y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, roedden nhw wedi cael eu trin yn annheg ar ôl i’r byrddau arholi newid y meini prawf yn ystod y flwyddyn academaidd.
Roedd ymgynghori wedi bod hefyd, meddai, ac roedd holl bleidiau’r Cynulliad yn cytuno.
Yn awr, mae Leighton Andrews wedi dweud wrth y BBC bod beirniadaeth CBAC yn “wirion” a bod rhai o’r swyddogion wedi mynd i boeni gormod am fanylion proses yn hytrach na thegwch.