Cartref Bryn Estyn ger Wrecsam
Fe fydd dyn 71 oed yn mynd gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug heddiw wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw honedig yn dilyn ymchwiliad i achosion hanesyddol o gam-drin plant yng ngogledd Cymru.
Mae John Allen, o Ipswich, Suffolk, wedi ei gyhuddo o 32 o droseddau rhyw difrifol gan gynnwys 22 cyhuddiad o ymosod yn anweddus.
Honnir bod y troseddau wedi digwydd rhwng 1968 a 1989 ac yn ymwneud a 15 o blant oedd rhwng saith a 15 oed ar y pryd.
Cafodd John Allen ei arestio am yr ail waith ddydd Mercher ar ôl cael ei holi gan dditectifs fel rhan o Ymchwiliad Pallial.
Mae tri o bobl eraill sydd wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae cyfanswm o 187 o bobl wedi siarad gyda ditectifs fel rhan o’r ymchwiliad i honiadau yn ymwneud a 18 o gartrefi gofal, gan gynnwys Bryn Estyn ger Wrecsam, rhwng 1963 a 1992.
John Allen oedd y cyntaf i gael ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial.
Cafodd Allen ei gadw yn y ddalfa neithiwr ac mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys Ynadon Yr Wyddgrug heddiw.