Ysgol Pwll Coch yn Nhreganna
Mae penderfyniad Cyngor Caerdydd i beidio adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Grangetown yn groes i gynllun addysg yr awdurdod, meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Mae’r anghydfod ynglŷn â thro pedol y Cyngor ynglŷn ag adeiladu ysgol Gymraeg newydd yn y ddinas yn parhau wrth i’r Prif Weinidog ymateb i’r sefyllfa.
Wrth ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC, dywedodd Carwyn Jones fod Cyngor Caerdydd yn gweithredu’n groes i’r polisi a fabwysiadwyd ganddyn nhw yn gynharach yn y flwyddyn.
Meddai, “Nid yw’r penderfyniad diweddar i beidio â bwrw ymlaen gydag ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Grangetown yn adlewyrchu’r cynllun (Cymraeg mewn addysg) a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd yn gynharach eleni.”
Bydd swyddogion o Gyngor Caerdydd yn cyfarfod a swyddogion o Lywodraeth Cymru fis Medi cyn lansio ymgynghoriad ar gynlluniau darpariaeth addysg yn y ddinas.
Cefndir
Ddechrau’r flwyddyn, bwriad y Cyngor oedd agor ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown er mwyn ateb y galw cynyddol am lefydd mewn ysgolion Cymraeg yn yr ardal.
Ond bellach, maen nhw’n awyddus i ehangu Ysgol Pwll Coch yn Nhreganna. Dywed ymgyrchwyr nad oes lle i ehangu ar y safle.
Mae’r safle oedd wedi cael ei ystyried ar gyfer yr ysgol Gymraeg bellach yn cael ei ystyried ar gyfer ysgol Saesneg newydd.
‘Ffars’
Dywedodd llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis: “Mae’r newyddion yn cadarnhau bod gweinyddiaeth Llafur Cyngor Caerdydd nid yn unig wedi anwybyddu ymgyrchwyr a rhieni, ond hefyd yn gweithredu’n groes i’w gynllun ei hun. Mae’n ffars. Maen nhw wedi gwneud llanast o’r broses.”
‘Annerbyniol’
Dywedodd Ceri Owen o RhAG (Rhieni Dros Addysg Gymraeg) fod safbwynt Carwyn Jones yn glir ar y mater. Meddai, “Mae ymateb y Prif Weinidog yn ategu’r cymeradwyaeth a gafwyd gan y Llywodraeth nol yn 2011 a’r £6 miliwn o gyllid cyfalaf ysgolion 21G sydd eisoes wedi’i glustnodi i’r prosiect…galwn eto felly ar y cabinet i wyrdroi eu penderfyniad ac i anrhydeddu cynllun gwreiddiol Cyngor Caerdydd i agor ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown erbyn 2015.”
Mae Leanne Wood yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos cefnogaeth i’r iaith Gymraeg a pheidio mabwysiadu safiad wrth-Gymraeg. Meddai, “Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos ei chefnogaeth i’r iaith a datgan yn glir a diamwys fod penderfyniad y Cyngor i beidio â pharhau â chynlluniau ysgol Grangetown yn annerbyniol.”