Fe fydd Ymddiriedolaeth Iechyd Ysbyty Swydd Stafford yn cael ei diddymu a gwasanaethau gofal dwys, mamolaeth a phlant yn wynebu toriadau o dan gynlluniau gweinyddwyr iechyd.

Bydd yr ysbyty yn parhau i gadw ei uned damweiniau brys rhan amser ond bydd yn colli gwasanaethau eraill fel rhan o adrefnu sylweddol yn sgil Adroddiad Francis i fethiannau difrifol yng ngofal cleifion.

Fe fydd yr argymhellion nawr yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus.

Dywedodd Gweinyddwyr Arbennig yr Ymddiriedolaeth (TSA), a gafodd eu penodi gan yr Adran Iechyd ym mis Ebrill, mai’r unig ddewis oedd gwneud newidiadau sylweddol yn  ysbyty Stafford ac Ysbyty Cannock Chase gerllaw.

Yn ôl y TSA fe fydd eu hargymhellion yn golygu bod 91% o gleifion sy’n defnyddio gwasanaethau’r ysbyty yn parhau i gael mynediad i ofal yn yr ysbytai os ydy’r newidiadau’n cael eu cymeradwyo.

Cafodd ymchwiliad cyhoeddus ei gynnal i Ysbyty Stafford ar ôl iddi ddod i’r amlwg y gallai cannoedd o gleifion fod wedi marw’n ddiangen o ganlyniad i ofal gwael ac esgeulustod.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd:  “Mae’r gweinyddwyr yn gofyn am farn ar eu cynlluniau ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Swydd Stafford. Rydym yn annog cleifion, gweithwyr, trigolion lleol ac aelodau o’r cyhoedd i gynnig sylwadau a byddwn yn ystyried yr argymhellion yn ofalus.”